Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Mehefin 2022
Amser:
13.00 -
16.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12868
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS James Evans AS |
Tystion: |
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Piers Bisson, Llywodraeth Cymru Dr Robert Parry, Llywodraeth Cymru Adam Turbervill, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â materion o fewn ei gylch gwaith.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)205 – Rheoliadau Pontio o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.2 SL(6)208 – Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cyfyngiadau Fukushima) (Dirymu) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
3.3 SL(6)206 – Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
4.1 SL(6)207 – Rheoliadau Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Chyflasynnau Mwg (Addasu Awdurdodiadau) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.2 SL(6)209 – Rheoliadau Paratoadau Cig (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5 Fframweithiau cyffredin
5.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
5.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframweithiau Cyffredin Dros dro
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
6 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
6.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd Aelodau’r Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog a chan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunodd yr Aelodau i ymateb cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, a gaiff ei gynnal ar 29 Mehefin.
6.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
6.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Canlyniad cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
6.4 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Darparu crynodebau ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd mewn cyfarfodydd rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru – Penodi Panel Arbenigol
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
7.2 Gohebiaeth gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder: Gwahoddiad i fynychu’r Pwyllgor
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – trafod y dystiolaeth.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
10 Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE
Trafododd y Pwyllgor faterion allweddol yn ymwneud â Chytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE, a thrafododd ei ganfyddiadau cynnar yn sgil blwyddyn gyntaf y Pwyllgor ar waith. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Craffu Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin ynghylch ‘Cynrychiolaeth y DU yn yr UE: beth sydd wedi newid a sut mae’n gweithio?’
11 Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 6 Mehefin 2022 – trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 6 Mehefin 2022, a chytunodd arno.
12 Blaenraglen waith
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.